insert front cover photo or link to image, if required

 

Llywodraeth Cymru

 

Dogfen Ymgynghori

 

 

 

 

Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) – Fframwaith Cenedlaethol 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi:13 Rhagfyr 2013

Ymatebion erbyn: 13 Marwth 2014


 

 

Trosolwg

 

Mae’r ddogfen hon yn gofyn am sylwadau ynghylch pa drefniadau y dylai Llywodraeth Cymru eu sefydlu i gefnogi cyflawni effeithiol Gofal Iechyd Parhaus (CHC) y GIG gan y GIG. Amlinellir y trefniadau hyn yn Fframwaith Cenedlaethol 2014 Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae’r ymgynghoriad yn holi nifer o gwestiynau ynghylch y ffordd orau i fwrw ymlaen.  

 

Sut i ymateb

 

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy lenwi’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad yng nghefn y ddogfen hon a'i dychwelyd trwy’r post erbyn 13 Mawrth 2014 at:

 

Tîm Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Is-adran Integreiddio, Polisi a Chyflawni

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Llywodraeth Cymru

4ydd Llawr

Parc Cathays

Caerdydd CF10 3NQ

 

Mae’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad hefyd ar gael ar ein gwefan  (http://wales.gov.uk/consultations/?lang=cy) a gellir ei dychwelyd atom trwy e-bost i: CHCFrameworkConsultation@wales.gsi.gov.uk  

 

 

 

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

 

 

 

Mae fersiynau Hawdd-i-Ddarllen a Hawdd ei Darllen o'r ddogfen ymgynghori hon ar gael. 

 

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras neu mewn Braille.

 

 

Manylion cysylltu

 

Rhagor o wybodaeth:

 

Tîm Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Is-adran Integreiddio, Polisi a Chyflawni

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Llywodraeth Cymru

4ydd Llawr

Parc Cathays

Caerdydd CF10 3NQ

 

 

E-bost: CHCFrameworkConsultation@wales.gsi.gov.uk  

 

Rhif ffôn: Caerdydd (029) 2082 5860 neu 2082 6950                       

Gwarchod data

 

 

Sut y byddwn yn defnyddio’r farn a’r wybodaeth a roddwch inni

 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth y Cynulliad sy’n ymdrin â’r ymgynghoriad hwn. Mae’n bosibl y bydd aelodau eraill o staff Llywodraeth y Cynulliad yn gweld yr ymateb hefyd, er mwyn eu helpu i gynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hynny’n helpu i ddangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, dywedwch hynny wrthym yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion.

 

Mae’n bosibl y bydd yr enwau a’r cyfeiriadau y byddwn wedi’u cuddio yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach, er nad yw hynny’n debygol o ddigwydd yn aml iawn. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n cynnwys gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi. Fodd bynnag, mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn ôl dan rai amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael gweld gwybodaeth a gadwyd yn ôl gennym, bydd rhaid inni benderfynu a ydym am ei rhyddhau ai peidio. Os bydd rhywun wedi gofyn inni beidio â chyhoeddi ei enw a’i gyfeiriad, bydd hynny’n ffaith bwysig i ni ei chadw mewn cof. Fodd bynnag, fe allai fod rheswm pwysig dros orfod datgelu enw a chyfeiriad unigolyn, er ei fod wedi gofyn i ni beidio â’u cyhoeddi. Byddem yn cysylltu â’r unigolyn ac yn gofyn am ei farn cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol i ddatgelu’r wybodaeth.

 


 

Cynnwys

 

 

 

Crynodeb

 

Adran 1:             Diben yr ymgynghoriad hwn

 

Adran 2:             Cefndir a chyd-destun

 

Adran 3:             Cyllid a chynaliadwyedd

 

Adran 4:             Cwestiynau

 

Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad


Crynodeb

 

Mae trefniadau i ddarparu Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau presennol Fframwaith Cenedlaethol 2010 ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru (y Fframwaith), a gyhoeddwyd ym Mai 2010.

 

Mae’r Fframwaith yn ymwneud ag oedolion ac mae’n amlinellu polisi diwygiedig Llywodraeth Cymru ynghylch cymhwystra i dderbyn CHC a chyfrifoldebau Byrddau Iechyd Lleol (BILl) ac Awdurdodau

Lleol (ALl). Mae’n amlinellu proses ar gyfer y GIG, yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwystra i dderbyn CHC a darparu gofal iechyd priodol.

 

Cyhoeddir ein Fframwaith newydd fis Gorffennaf nesaf a bydd yn disodli Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Fframwaith Cenedlaethol ar Gyfer Gweithredu yng Nghymru 2010. Ni fydd y Fframwaith newydd yn newid y trefniadau presennol yn llwyr. Yn lle hynny, bydd yn darparu rhagor o gadernid, eglurder a sicrwydd ynghylch meysydd y mae cyfranddeiliaid wedi’u nodi fel rhai i’w gwella. Felly, mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y meysydd y bwriedir eu diweddaru yn unig.

 

Bydd y Fframwaith newydd yn darparu canllawiau clir, eglur a hawdd eu defnyddio yn seiliedig ar safbwyntiau cyfranddeiliaid, yn cynnwys arweinwyr nyrsio CHC, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  

 

Bydd y Fframwaith yn cynnwys Pecyn Cymorth CHC, a fydd yn adnodd ar-lein ac yn gynllun gweithredu a hyfforddi. Gwneir rhagor o waith yn ystod y cyfnod ymgynghori i dreialu prosesau newydd a mireinio cynnwys y Pecyn Cymorth, megis polisïau, protocolau, adnoddau, enghreifftiau ymarferol a Chwestiynau Cyffredin.

 

Bydd angen i bob BILl ac Awdurdod Lleol yng Nghymru ei ddilyn. Bydd y Fframwaith newydd yn amlinellu proses ar gyfer y GIG, yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwystra i dderbyn CHC a darparu gofal iechyd priodol.

 

Rydym felly’n croesawu eich safbwyntiau ynghylch llunio’r Fframwaith arfaethedig, er mwyn cyflawni trefniadau CHC mwy effeithiol.

 

 


 

 

 

Adran 1

 

Diben yr ymgynghoriad hwn

 

1.    Diben yr ymgynghoriad hwn yw adolygu’r Fframwaith er mwyn darparu sylfaen gyson i asesu, comisiynu a darparu CHC ar gyfer oedolion ar draws Cymru. Pwrpas hyn yw sicrhau fod y broses i benderfynu cymhwystra yn cael ei gweithredu yn gyson, yn deg ac yn briodol. Nid yw'r fframwaith hwn wedi'i fwriadu i ddisodli strategaethau comisiynu ar y cyd presennol.

 

2.    Rydym wedi nodi nifer o gwestiynau i'w hystyried gennych yn eich ymateb i'r Fframwaith. Rhestrir y rhain yn fanwl yn Adran 4 yr ymgynghoriad hwn, a gofynnir ichi am eich safbwyntiau ynghylch y dewis a gefnogwch.

 

3.    Bydd angen datblygu’r dewisiadau a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn ymhellach a chyfrifo eu costau llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad yn 2014 yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. 

 

4.    Bydd Llywodraeth Cymru’n dymuno monitro effaith y Fframwaith i sicrhau ei fod yn gadarn ac ymarferol. Byddem yn croesawu eich safbwyntiau ynghylch y ffordd orau o wneud hyn. 

 

 

 


Adran 2                    

 

Cefndir a chyd-destun

 

Diffiniad Gofal Iechyd Parhaus y GIG

 

5.    Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) yn becyn gofal a drefnir ac a ariennir yn llwyr gan y GIG, lle bydd asesiad yn pennu mai angen iechyd yw angen pennaf yr unigolyn.  

 

 

Egwyddorion Cyffredinol CHC

 

 

6.    Mae CHC yn un rhan yn unig o gontinwwm o wasanaethau y mae angen i awdurdodau lleol a chyrff y GIG eu cynnig i gefnogi pobl y mae angen gofal iechyd a chymdeithasol arnynt. Mae CHC yn un agwedd o ofal y bydd ar bobl ei angen o ganlyniad i anabledd, damwain neu salwch, i fynd i’r afael ag anghenion corfforol a meddyliol.

 

7.    Mae’r Fframwaith yn datgan yn glir y dylai'r holl broses o bennu cymhwystra a chynllunio a chyflawni gwasanaethau gofal iechyd parhaus y GIG fod yn ‘canolbwyntio ar unigolion’. Mae hyn yn hollbwysig, oherwydd bydd unigolion sy’n mynd trwy’r broses hon yn wynebu cyfnod bregus iawn o’u bywyd. Efallai bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ac arwyddocaol, felly mae grymuso unigolion ar yr adeg hon yn hanfodol. Felly, dylid egluro’r broses asesu ac adolygu barhaus i’r unigolyn a/neu ei gynrychiolydd ar y dechrau a’i chadarnhau yn ysgrifenedig. Mae dulliau cyfathrebu a thempledi o lythyrau ar gyfer camau amrywiol y broses ar gael yn y Pecyn Cymorth CHC.

 

8.    Lle na fydd gan unigolyn y gallu i wneud dewisiadau gwybodus, o dan y Cod Ymarfer Galluedd Meddyliol, gall staff ddatgelu gwybodaeth ynghylch unigolyn, cyn belled â bod hynny er budd yr unigolyn sydd dan sylw, neu fod rheswm cyfreithiol dros wneud hynny.

 

9.    Ni ddylid ystyried CHC yn drefniant parhaol. Dylai darpariaeth gofal fod yn seiliedig ar anghenion ac wedi’i gynllunio i wneud y gorau o allu ac annibyniaeth. Dylai unrhyw becyn gofal, waeth pa gorff sy’n ei ariannu, gael ei adolygu’n rheolaidd mewn partneriaeth â’r unigolyn a/neu ei gynrychiolydd i sicrhau ei fod yn dal i ddiwallu ei anghenion. Mae CHC yn un rhan yn unig o gontinwwm o wasanaethau y mae angen i awdurdodau lleol a chyrff y GIG eu cynnig i gefnogi pobl y mae angen gofal iechyd a chymdeithasol arnynt. Mae CHC yn un agwedd o ofal y bydd ar bobl ei angen o ganlyniad i anabledd, damwain neu salwch i fynd i’r afael ag anghenion corfforol a meddyliol.

 

 

 

 

 

Cyfrifoldebau’r GIG ac Awdurdodau Lleol

 

10. Mae’r GIG yn gyfrifol am asesu, trefnu ac ariannu ystod eang o wasanaethau i ddiwallu anghenion gofal iechyd tymor byr a thymor hir y boblogaeth. Yn ogystal â chyfnodau o ofal iechyd dwys, bydd ar rai pobl angen gofal dros gyfnodau estynedig, o ganlyniad i anabledd, damwain neu salwch, i fynd i’r afael ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol. Darperir y gwasanaethau hyn am ddim fel arfer.

11. Bydd unigolyn yn gymwys i dderbyn CHC pan asesir fod ei brif angen yn angen iechyd. Yna, bydd yn cael pecyn o gymorth a ariennir yn llawn gan y GIG. Mae tua 5,700 o bobl yng Nghymru yn derbyn CHC, a bydd hyn yn costio tua £280 miliwn i’r BILl bob blwyddyn. Yn ôl ei natur, mae darparu CHC yn aml yn weithgarwch tymor hir a chostus, er gall fod yn ysbeidiol ei natur, a bydd rhai pobl yn dod yn gymwys i'w dderbyn ac yna’n peidio â bod yn gymwys. Gan ystyried y pwysau hwn, nodwyd CHC fel maes gofal iechyd a fyddai’n elwa ar ddull gweithredu cenedlaethol cydgysylltiedig, ac ers 2010, caiff ei gefnogi gan ganllawiau Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. 

 

12. Mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo eu poblogaeth leol, yn cynnwys pobl y mae angen gofal estynedig arnynt. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys llety, addysg, gofal personol a chymdeithasol, hamdden a gwasanaethau eraill. Rhaid i awdurdodau lleol godi tâl am ofal preswyl yn unol â’r Canllawiau Codi Tâl am Ofal Preswyl (CRAG) a gallant godi tâl am wasanaethau gofal eraill yn unol ag unrhyw ganllawiau neu reoliadau gan Lywodraeth Cymru.    

 

13. Lle asesir mai angen iechyd yw angen pennaf unigolyn, ac felly bydd yn gymwys i dderbyn CHC, bydd y GIG yn gyfrifol am ariannu’r pecyn gofal iechyd a chymdeithasol llawn. Lle bydd unigolyn yn byw gartref, ni fydd hyn yn cynnwys costau llety, bwyd na chymorth cyffredinol i gynnal y cartref.

 

14. Mae cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau fod asesu cymhwystra i dderbyn CHC a’i ddarpariaeth yn digwydd mewn modd cyson a bod y broses yn cael ei rheoli’n weithredol i osgoi oediadau diangen.

 

15. Os na fydd unigolyn yn cyflawni meini prawf cymhwystra CHC, bydd serch hynny yn dal i allu derbyn ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n debygol o fod yn rhan o wasanaethau prif ffrwd neu wedi'u cynllunio'n unigol i ddiwallu angen penodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Materion

 

Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o'r Fframwaith

16. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) astudiaeth o weithrediad y Fframwaith a’i effeithiolrwydd o ran sicrhau y caiff unigolion eu trin yn deg a chyson. Ni wnaeth yr astudiaeth archwilio cyflawni gweithredol CHC yn fanwl, megis ailgynllunio gwasanaethau.

17. Cyhoeddodd WAO ei adroddiad, “Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG” ym Mehefin eleni. Cydnabyddai fod y Fframwaith presennol wedi cyflawni nifer o fuddion, yn cynnwys materion llywodraethu, trefniadau ar gyfer cymhwystra parhaus a sail ar gyfer asesiad cyson o anghenion gofal. Mynegodd yr Adroddiad bryderon ynghylch effeithiolrwydd gweithrediad y Fframwaith, yn ogystal â thegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnaed ynghylch CHC gan Fyrddau Iechyd Lleol. Wrth grynhoi, nodai’r Adroddiad y canlynol:

 

·          roedd materion llywodraethu CHC o fewn Byrddau Iechyd wedi’u cryfhau, ond nid oeddent yn cynnig digon o sicrwydd fod pobl yn cael eu trin yn gyson a theg;

·          roedd effeithiolrwydd gwaith ar y cyd rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn amrywiol dros ben;

·          bu gostyngiad yn nifer a gwariant ar achosion CHC; er hynny, nid oedd effaith y Fframwaith yn hyn o beth yn glir. Nododd yr adroddiad dystiolaeth gymysg ynghylch graddau a chysondeb cyfranogiad unigolion a’u teuluoedd yn y broses asesu;

·          er gwaethaf y cyllid ychwanegol a ddarparwyd, roedd risg canfyddadwy na fyddai prosesau i ddelio â cheisiadau am CHC wedi’u hôl-ddyddio yn cael eu cwblhau cyn y terfyn amser ym Mehefin 2014; ac

·          nid oedd ymateb prydlon i lawer o’r heriau i benderfyniadau, ac nid oedd unrhyw derfyn amser wedi’i bennu ar gyfer yr achosion unigol y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn ymdrin â hwy.

18. Roedd yr Adroddiad hefyd ddadlau y byddai Adnodd Sgrinio, fel y defnyddir yn Lloegr, yn sicrhau eglurder a chysondeb yn y meini prawf a ddefnyddir i asesu pobl.

 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

19. Yn dilyn nifer o gwynion a gafwyd, mae Ombwdsmon Llywodraeth Leol Cymru (“yr Ombwdsmon”) wedi datgan pryderon ynghylch cysondeb a thegwch y penderfyniadau ynghylch cymhwystra, ac mae Byrddau Iechyd Lleol wedi cael nifer fawr o geisiadau wedi’u hôl-ddyddio (“adolygon ôl-weithredol”) sy’n herio penderfyniadau blaenorol. Yn dilyn ei ymchwiliad i’r dull o weinyddu rhai o’r hawliadau hynny, cafodd yr Ombwdsmon gyngor cyfreithiol gan Gwnsler y Frenhines ynghylch ariannu a darparu CHC, a gynigiodd nifer o welliannau i’r Fframwaith. Maent yn cynnwys; achosion “llwybr cyflym”, cynnig canllawiau ynghylch ad-daliadau, canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch man cychwyn eu rhwymedigaethau ariannol, ac amlinellu disgwyliadau o ran Byrddau Iechyd Lleol lle bu diffyg gweithredu neu oedi wrth fwrw ymlaen â hawliad.

20. Mae rhai o’r mesurau hynny eisoes wedi’u gweithredu. Er enghraifft, dros y 12 mis diwethaf, mae Gweinidogion Cymru wedi cynnig arweiniad interim i gadarnhau a chryfhau trefniadau yn ymwneud â chymhwystra i dderbyn CHC.

Fframwaith Arfaethedig 2014 ar gyfer CHC

21. Mae’r mesurau newydd hyn yn cael eu hymgorffori yn Fframwaith Cenedlaethol Arfaethedig 2014 ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Eu nod yw cryfhau’r canllawiau a’r trosolwg strategol a roddir i BILlau. Mae’r Fframwaith arfaethedig yn weddol gymhleth o ran manylion, ond mae dadansoddiad o’r meysydd lle cafodd ei adolygu wedi'i amlinellu yn Adran 3. Mae’r Fframwaith arfaethedig yn disodli’r trefniadau blaenorol a amlinellir yn Fframwaith Cenedlaethol 2010 ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, a chaiff ei gefnogi trwy:

 

22. Dylid nodi fod y Fframwaith arfaethedig yn cyfeirio at ddeddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau strategol amrywiol. Dylid cofio y caiff rhai o’r rhain eu hadolygu maes o law. Wrth ddehongli’r canllawiau sydd yn y ddogfen hon, dylid felly ystyried newidiadau’r dyfodol.

 

 

Asesu

23. Caiff cymhwystra unigolyn i dderbyn CHC ei asesu’n gynhwysfawr gan Dîm Amlddisgyblaethol ac mewn trafodaethau â’r unigolyn a/neu ei deulu. Gall y cymhlethdodau a’r amgylchiadau anodd sy’n ymwneud â chais pob unigolyn am CHC olygu y gall y broses gyfan gymryd sawl wythnos i’w symud ymlaen.

24. Fel arfer, dylai’r ALl gael ei gynrychioli ar y tîm amlddisgyblaethol sy’n cwblhau proses cymhwystra CHC. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn golygu fod yr wybodaeth allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer cymorth ALl ar gael yn rhwydd i atal oedi wrth ryddhau claf. Felly, lle canfyddir nad yw unigolyn yn gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus y GIG, dylai’r ALl fod yn barod i ymateb a gweithredu ei gyfrifoldebau yn gyflym.

25. Mae asesiad y tîm amlddisgyblaethol o anghenion gofal yr unigolyn yn ganolog i drefniadau CHC, a bydd yn llywio'r gwaith o gwblhau Adnodd Cefnogi Penderfyniadau. Trwy gydol y broses asesu, bydd rhaid i’r tîm asesu hysbysu’r unigolyn a manylu barn yr unigolyn ynghylch ei anghenion gofal/cymorth ei hun. Dylid gwneud hyn trwy law cydlynydd gofal, a gyflogir gan y BILl. Fel rhan o’r ‘dull sy’n canolbwyntio ar unigolion’, dylai unigolion, eu teulu, neu gynrychiolwyr o’u dewis, fod yn cyfranogi’r weithgar yn y broses.

26. Dylid nodi lefelau amrywiol angen yr unigolyn a'r risg iddo, a'u hadlewyrchu o fewn Asesiad Integredig, a dylai'r dull o gynllunio a rheoli gofal ystyried nifer o ddewisiadau gofal y bydd rhaid eu cofnodi o fewn y cynllun cyflawni gwasanaethau. Gall enghreifftiau o’r dewisiadau gofal hyn gynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i):

 

Rôl yr Adnodd Cefnogi Penderfyniadau

 

27. Pwrpas yr Adnodd Cefnogi Penderfyniadau yw cynorthwyo i nodi cymhwystra i gael gofal iechyd parhaus y GIG; nid yw wedi'i gynllunio fel dull asesu ynddo'i hun. Efallai y gwnaiff asesiad amlddisgyblaethol da nodi anghenion cymorth/gofal y bydd angen ymateb iddynt gan y BILl neu’r ALl, pa un ai a fydd yr unigolyn yn gymwys i dderbyn gofal parhaus y GIG neu beidio.

 

28. Bydd angen i unrhyw drefniadau CHC newydd gael eu hintegreiddio’n llawn yn y broses Asesu Integredig newydd. Amlinellir hyn ym Mhennod 7 y Fframwaith.

 

 

 

 


Adran 3

 

Adolygu'r Fframwaith

 

29. Rydym yn cydnabod fod rhaid edrych ar y trefniadau CHC presennol. Rydym wedi gweithredu ar hyn, gan ystyried safbwyntiau WAO a phartïon eraill i gynhyrchu cynllun i adolygu’r trefniadau hynny, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Wrth wneud hynny, rydym wedi cydnabod eu consensws nad yw ailysgrifennu’r Fframwaith yn llwyr yn angenrheidiol. Yn lle hynny, rydym wedi adolygu meysydd penodol, gan fabwysiadu arferion gorau lle mae hynny’n briodol, i sicrhau fod y Fframwaith yn cynnig canllawiau eglur, ymarferol a hawdd eu defnyddio.

 

30. Mae’r Fframwaith yn amlinellu'r egwyddorion creiddiol lle bydd rhaid i ymarferwyr ddangos eu bod wedi mabwysiadu arferion da yn y meysydd canlynol:

 

·         Rhoi anghenion yr unigolyn yn gyntaf (“Pobl yn gyntaf”).

·         ‘Dim penderfyniadau amdanaf i hebof i’; cynnwys yr unigolyn, ei deulu neu ei ofalwyr.

·         Dim oedi wrth ddiwallu anghenion unigolyn oherwydd trafodaethau ariannu.

·         Canolbwyntio ar angen, nid diagnosis.

·         Gofal cydgysylltiedig.

·         Cyfathrebu.

 

31. Wrth weithredu’r egwyddorion a fanylir uchod, mae’r Fframwaith arfaethedig yn cadarnhau rolau a chyfrifoldebau'r sawl sy’n cael ei asesu, eu gofalwyr/cynrychiolwyr, y gweithiwr proffesiynol arweiniol (“cydgysylltydd gofal") sy’n gyfrifol am yr asesiad, aelodau’r tîm amlddisgyblaethol sy’n asesu ac yn argymell unrhyw becyn gofal a’r panel sy’n comisiynu’r gwasanaethau y bydd eu hangen ar yr unigolyn.

 

Mae’r Fframwaith arfaethedig hefyd yn cynnwys y detholiadau canlynol:

 

Egwyddorion Creiddiol – Yr Iaith Gymraeg

 

32. Mae’r Fframwaith wedi’i ddiweddaru yn cynnwys darpariaeth newydd sy’n pwysleisio, yn achos siaradwyr y Gymraeg, fod cyfathrebu effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion allweddol asesu a darparu unrhyw gymorth sydd ei angen.

 

 

Pennod 2 – Llywodraethu a Pherchnogaeth Strategol

 

33.Mae Pennod 2 yn cryfhau perchnogaeth y BILl o'r CHC trwy amlinellu, ar Lefel Cyfarwyddwyr, y cyfrifoldeb am fonitro perfformiad CHC a chynnal trosolwg strategol.

 

34.Dan y Fframwaith newydd, bydd rhaid i bob BILl benodi gweithredwr penodol, ar lefel Cyfarwyddwyr, a fydd yn gyfrifol am fonitro perfformiad CHC a chynnal trosolwg strategol. Fel lleiafswm, dylent gyflwyno adroddiad perfformiad chwarterol CHC i’w Bwrdd, yn ogystal ag adroddiad blynyddol yn seiliedig ar y Pecyn Cymorth CHC. Byddant yn datblygu camau gweithredu gofynnol y bydd y BILl yn cael ei ddal yn gyfrifol amdanynt. Mae angen i'r BILl ddefnyddio Fframwaith Perfformiad cenedlaethol CHC, sydd hefyd ar gael trwy’r Pecyn Cymorth CHC a’r Adnodd Hunanasesu a ddatblygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

35.Bydd Llywodraeth Cymru yn coladu adroddiad blynyddol ac yn darparu’r dulliau cefnogi sy’n ofynnol i rannu profiadau dysgu.

 

 

Pennod 7 – Y broses Asesu a’r Adnodd Cefnogi Penderfyniadau (ACP)

a)   Y Broses Asesu

36.Mae’r Fframwaith arfaethedig yn nodi fod y ddogfen ‘Creu System Unedig a Theg ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal’ (Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2002)[1] bellach wedi cael ei disodli mewn perthynas â phobl hŷn gan y canllawiau interim newydd – Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu ar gyfer Pobl Hŷn. Nod y canllawiau interim yw symleiddio a lleihau beichiau gweinyddol fel gall y gweithiwr proffesiynol dreulio rhagor o amser yn gweithio'n uniongyrchol â phobl i ddeall eu hanghenion yn well a gweithredu’n gynt i’w cynorthwyo. Dylai hefyd gynorthwyo i integreiddio asesiadau yn fwy effeithiol trwy resymoli prosesau ar gyfer casglu a chofnodi gwybodaeth i osgoi dyblygu ymdrechion. Dylai asesiadau mwy effeithiol, er enghraifft, leihau’r baich yn ymwneud â gweithredu’r ‘adnodd cefnogi penderfyniadau’ a ddefnyddir at ddibenion CHC.

 

37. Mae’r Fframwaith arfaethedig yn pennu y dylai’r broses asesu newydd ddefnyddio’r fframwaith asesu integredig neu unedig, nid ei ddyblygu, ac alinio ag arferion rhyddhau da, fel y manylir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru[2] a Trosglwyddo’r Baton[3].

 

 

38. Bydd y Tîm Amlddisgyblaethol hefyd yn ystyried yr amgylchedd gorau i wneud asesiad o ofal tymor hirach er mwyn gwneud y gorau o botensial yr unigolyn i fod yn annibynnol. Rhaid gofalu na wneir unrhyw ragdybiaethau cynamserol ynghylch gofynion gofal tymor hir tra bydd yr unigolyn yn ddifrifol wael. Dylid pennu ‘y Cartref yn gyntaf’ fel y sefyllfa arferol, a dylid bob amser ystyried adsefydlu/ailalluogi i gynorthwyo i gynnal cymaint o annibyniaeth ag y bo modd. Mae’r dewisiadau i’w hystyried yn cynnwys cyfleusterau asesu cam-i-lawr/canolradd yn y gymuned, neu gartref yr unigolyn â chymorth tymor byr dwys.

b)   Yr Adnodd Cefnogi Penderfyniadau (ACP)

39. Rydym wedi ystyried canfyddiadau adroddiad WAO yn ofalus, ac rydym yn cytuno fod manteision yn sgil mabwysiadu ACP Lloegr, yn cynnwys ei ddull hawdd ei ddefnyddio. Byddwn felly’n mabwysiadu hyn fel rhan o drefniadau newydd Cymru. Bydd ein ACP yn mynd i’r afael â'r anghysonderau a amlinellir yn adroddiad WAO ac yn hwyluso darpariaeth drawsffiniol ddi-dor CHC. Byddwn yn monitro hyn trwy'r Fframwaith Perfformiad.

 

40. Rhaid i’r sylw fod ar asesiad cyflawn a chyfannol o’r unigolyn, nid sgoriau ACP. Os bydd yr asesiad a’r cynllun gofal integredig yn ddigon cadarn, ni fydd angen dyblygu’r gwaith papur trwy gopïo gwybodaeth yn y ddogfen ACP. Bydd yn dderbyniol dan yr amgylchiadau hyn i lenwi matrics yr ACP a chofnod cryno o drafodaeth y Tîm Amlddisgyblaethol a’r argymhelliad ynghylch cymhwystra. Rydym hefyd wedi pennu y dylai’r drafodaeth derfynol a’r argymhelliad ynghylch cymhwystra CHC ddigwydd mewn cyfarfod ffurfiol o'r Tîm Amlddisgyblaethol, a dylid gwahodd yr unigolyn a/neu ei ofalwyr i’r cyfarfod hwnnw.

 

41. Yn olaf, mae’r Fframwaith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau fod â dulliau sicrwydd ansawdd cadarn yn eu lle i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, ni ddylai un unigolyn sy’n gweithredu’n unochrog wneud penderfyniad i beidio derbyn yr argymhelliad. Dan amgylchiadau o’r fath, dylai’r rheolwr enwebedig gyfeirio’r achos at y Panel sy’n penderfynu. Rydym hefyd wedi datgan yn glir yn y Fframwaith arfaethedig fod cyfrifoldeb BILl ar ariannu CHC yn cychwyn pan fydd y Panel yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ran y Bwrdd.

 

 

Pennod 8 Darparu a Monitro Gofal

 

42. Mae’r Fframwaith Arfaethedig yn amlinellu’r cymorth y mae’n rhaid ei roi i ofalwyr ac mae hefyd yn pennu cyfrifoldebau’r BILl o ran comisiynu a darparu pecyn gofal yr unigolyn. Mae’r adran hefyd yn amlinellu gofynion contractau a manylebau gwasanaethau ar gyfer lleoliadau cofrestredig, a’r gweithdrefnau gweithredol i sicrhau ei fod yn gyfrifol am sicrhau a monitro gwasanaethau a gomisiynir yn effeithiol, lle darperir gofal gan asiantaethau allanol. Mae’r bennod hefyd yn nodi’r angen am gytundeb ysgrifenedig rhwng y BILl a’r unigolyn a/neu ei gynrychiolydd, yn amlinellu’n glir beth wnaiff y cyllid CHC ei ariannu. Mae hefyd yn disgwyl y bydd rhaid i BILl ac awdurdod lleol gydweithio i nodi bylchau mewn darpariaeth bresennol a darpariaeth y dyfodol.

 

43. Mae’r bennod hefyd yn cyfarwyddo BILl i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau statudol, yn cynnwys ‘Pryderon Cynyddol ynghylch Cartrefi Gofal sy’n Darparu Gwasanaethau ar gyfer Oedolion, a Chau’r Cartrefi Hynny’ (8.13)

 

44. Mae’r Fframwaith arfaethedig hefyd yn pennu’r trefniadau newydd ar gyfer Cyfraniadau Personol gan unigolyn sy’n gymwys i dderbyn CHC, yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol ac ychwanegion, yn ogystal â chadw darparwr presennol. Mae hefyd yn cadarnhau’r defnydd o Daliadau Uniongyrchol a CHC yn ogystal â threfniadau ariannu ar y cyd.

 

Pennod 9 – Adolygiadau

 

45. Mae Pennod 9 yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer adolygiadau presennol, gan bennu fod rhaid i’r unigolyn a/neu ei gynrychiolydd a darparwr y gwasanaeth gael manylion cyswllt cydgysylltydd gofal/gweithiwr proffesiynol arweiniol enwebedig, er mwyn mynd i’r afael â chyflwr neu amgylchiadau’r unigolyn yn brydlon.

 

46. Bydd rhaid gwneud adolygiad o’r sawl sy’n derbyn Gofal Nyrsio wedi’i Ariannu gan y GIG mewn cartref gofal o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’n ychwanegu y dylai adolygiad o’r fath gynnwys cwblhau Adnodd Sgrinio Rhestr Wirio CHC er mwyn nodi’r sawl y gall ei anghenion presennol awgrymu ei fod yn gymwys i dderbyn CHC. Dylai’r BILl sicrhau fod yr unigolyn, ei deulu/cynrychiolydd a darparwr y cartref gofal yn cael yr wybodaeth a’r cysylltiadau sydd ar gael i’w cynorthwyo i nodi newidiadau mewn gofal sy’n awgrymu fod angen adolygiad amserol. Dylid annog darparwyr cartrefi gofal i lenwi'r Rhestr Wirio eu hunain a hysbysu'r bwrdd iechyd pan fydd angen asesiad llawn o gymhwystra i dderbyn CHC.

 

Pennod 10 – Polisïau Eraill a Meysydd Arfer Arbenigol

 

 

47. Mae’r Fframwaith arfaethedig bellach yn cynnwys adran sy’n amlygu sut bydd yn cysylltu â meysydd eraill, er enghraifft:

 

 

Pennod 11 – Datrys Anghydfodau

 

48. Mae Pennod 11 y Fframwaith arfaethedig yn amlinellu’r disgwyliad y bydd BILl a’u partneriaid yn cydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddinasyddion Cymru trwy waith partneriaeth ac integreiddio effeithiol. Lle na fydd y Tîm Amlddisgyblaethol yn gallu sicrhau consensws ynghylch cymhwystra i dderbyn CHC, dylent gyfeirio'r anghydfod at y rheolwr priodol a defnyddio arbenigedd diduedd o fewn eu BILl neu oddi allan iddo. Lle bydd yr unigolyn a/neu ei gynrychiolydd yn gwrthod asesiad clinigol y Tîm Amlddisgyblaethol, dylid cynnig adolygiad gan gymheiriaid allanol i osgoi defnyddio’r drefn anghydfodau neu gwynion ffurfiol a cheisiadau am adolygiadau ôl-weithredol.

 

49. Mae’r bennod hefyd yn nodi fod disgwyl i'r BILlau gyfranogi mewn ymarfer adolygu achosion blynyddol a gydlynir gan Lywodraeth Cymru ac a gaiff ei gefnogi â deunyddiau o’r Pecyn Cymorth CHC.

 

 

Pennod 12 – Panel Adolygu Annibynnol (Proses Apelio) a Chwynion

 

 

50. Mae’r Fframwaith arfaethedig yn amlinellu’r angen am gysondeb yng ngwaith y Panelau Adolygu Annibynnol a bod rhaid cofnodi a chyfathrebu’r trafodaethau yn briodol.

 

 

Pennod 13 – Hawliadau Ôl-weithredol am Ad-daliad

 

51. Mae pennod olaf y Fframwaith yn un newydd, ac mae’n ymwneud â hawliadau wedi’u hôl-ddyddio (“ôl-weithredol”) lle talodd unigolyn am ei ofal ond roedd yn cyflawni gofynion cymhwystra CHC oedd yn weithredol ar y pryd. Mae’n nodi y gall unigolyn neu ei gynrychiolydd/gynrychiolwyr ofyn am adolygiad ôl-weithredol lle gwnaeth gyfrannu at gost ei ofal, ond bydd ganddo reswm i gredu ei fod wedi diwallu gofynion cymhwystra CHC oedd yn gymwys bryd hynny. Os profir cymhwystra naill ai am y cyfnod llawn neu ran o gyfnod yr hawliad, bydd egwyddorion gweinyddu cyhoeddus da yn mynnu fod rhaid gwneud iawn cyn gynted ag y bo modd. Ni ddylai unrhyw hawliad ôl-weithredol gymryd mwy na dwy flynedd i’w brosesu.

 

52. Mae'r adran hon yn amlinellu'r broses o wneud hawliad a'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno hawliad o'r fath, a'r cyfrifoldeb am reoli hawliadau o'r fath.

 

 

 

 

 

 

 

 

Adran 5                    

Cwestiynau

  1. Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru gasglu fod diffyg eglurder yn rhai elfennau o’r Fframwaith presennol. A yw’r Fframwaith wedi’i ddiweddaru yn llwyddo i fynd i’r afael â hyn? A oes angen sylw ychwanegol i unrhyw feysydd eraill?

 

  1. A yw’r Fframwaith yn cynnig map ffordd cyffredinol clir i’ch cynorthwyo i ddeall ble’r ydych o fewn y broses?

 

  1. A yw’r Fframwaith arfaethedig yn cynnig digon o sicrwydd ynghylch cyfrifoldeb, perchnogaeth a llywodraethu’r CHC gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a’u partneriaid?

 

  1. A yw’r Broses Asesu, y Rhestr Wirio/Adnodd Sgrinio a’r Adnodd Cefnogi Penderfyniadau yn addas i’w diben?

 

  1. A ydych yn credu ei fod yn ddefnyddiol i ddisodli Adnodd Cefnogi Penderfyniadau (ACP) presennol Cymru â’r fersiwn newydd arfaethedig, a fydd yn seiliedig ar ACP Lloegr?

 

  1. A ydych yn credu fod unigolion a’u teuluoedd yn cyfranogi digon yn y broses asesu wedi’i diweddaru ? Os nad ydynt, pa ddulliau ychwanegol a hoffech eu gweld i sicrhau y caiff y broses ei gwella?

 

  1. Yn eich barn chi, a yw’r Fframwaith arfaethedig yn cysylltu'n effeithiol â pholisïau a chanllawiau eraill iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? A ddylai wneud unrhyw gysylltiadau â chanllawiau da neu arferion arloesol?

 

  1. Fe ddatblygir pecyn cymorth ar-lein yn cynnwys adnoddau i gefnogi gweithredu CHC (mae'r rhestr cynnwys yn un o atodiadau'r Fframwaith Drafft). A oes unrhyw gynhyrchion eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu trafod mewn pecyn cymorth o’r fath?

 

  1. Mae’r Fframwaith yn ddogfen dechnegol wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol arbenigol sy’n arsylwi asesu a darparu gofal. Byddem yn croesawu eich sylwadau ynghylch y posibilrwydd o gyhoeddi Fframwaith wedi’i symleiddio ar gyfer ymarferwyr rheng flaen (e.e. staff wardiau) a defnyddwyr gwasanaeth. Croesawir sylwadau ynghylch ei briodoldeb, yn cynnwys awgrymiadau ynghylch ffurf, cynnwys ac arddull.         
    Ymateb i'r Ymgynghoriad – Fframwaith CHC

 

Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad

Eich enw:     

 

 

Sefydliad (lle bo'n berthnasol):

 

 

e-bost / rhif ffôn:

 

 

Eich cyfeiriad:

 

 

 

 

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma.

Os ydych yn ymateb ar ran eich sefydliad, ticiwch yma:

 

 

 


 

Cwestiwn 1:  Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru gasglu fod diffyg eglurder yn rhai elfennau o’r Fframwaith presennol. A yw’r Fframwaith wedi’i ddiweddaru yn llwyddo i fynd i’r afael â hyn? A oes angen sylw ychwanegol i unrhyw feysydd eraill?

 

Sylw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 2:            A yw’r Fframwaith yn cynnig map ffordd cyffredinol clir i’ch cynorthwyo i ddeall ble’r ydych o fewn y broses?

 

Sylw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 3:  A yw’r Fframwaith arfaethedig yn cynnig digon o sicrwydd ynghylch cyfrifoldeb, perchnogaeth a llywodraethu’r CHC gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a’u partneriaid?

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 4:  A yw’r Broses Asesu, y Rhestr Wirio/Adnodd Sgrinio a’r Adnodd Cefnogi Penderfyniadau yn addas i’w diben?

 

Sylw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 5:   A ydych yn credu ei fod yn ddefnyddiol i ddisodli Adnodd Cefnogi Penderfyniadau (ACP) presennol Cymru â’r fersiwn newydd arfaethedig, a fydd yn seiliedig ar ACP Lloegr?

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 6:   A ydych yn credu fod unigolion a’u teuluoedd yn cyfranogi digon yn y broses asesu wedi’i diweddaru ? Os nad ydynt, pa ddulliau ychwanegol a hoffech eu gweld i sicrhau y caiff y broses ei gwella?

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 7:   Yn eich barn chi, a yw’r Fframwaith arfaethedig yn cysylltu'n effeithiol â pholisïau a chanllawiau eraill iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? A ddylai wneud unrhyw gysylltiadau â chanllawiau da neu arferion arloesol?

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 8:   Fe ddatblygir pecyn cymorth ar-lein yn cynnwys adnoddau i gefnogi gweithredu CHC (mae'r rhestr cynnwys yn un o atodiadau'r Fframwaith Drafft). A oes unrhyw gynhyrchion eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu trafod mewn pecyn cymorth o’r fath?

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cwestiwn 9:   Mae’r Fframwaith yn ddogfen dechnegol wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol arbenigol sy’n arsylwi asesu a darparu gofal. Byddem yn croesawu eich sylwadau ynghylch y posibilrwydd o gyhoeddi Fframwaith wedi’i symleiddio ar gyfer ymarferwyr rheng flaen (e.e. staff wardiau) a defnyddwyr gwasanaeth. Croesawir sylwadau ynghylch ei briodoldeb, yn cynnwys awgrymiadau ynghylch ffurf, cynnwys ac arddull.         

 

Sylw: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Creu System Unedig a Theg ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2002

[2] NAFWC 17/2005 Canllawiau Cynllunio ar gyfer Rhyddhau Unigolion o Ysbytai

[3] Trosglwyddo’r Baton: Canllaw Ymarferol i Gynllunio’n Effeithiol ar gyfer Rhyddhau  (2008)